Yn dilyn cyfnod o adnewyddu, bydd cyrtiau tenis cymunedol Llandre yn ailagor ddydd Sul 18fed o Fai, 2025 yng nghwmni'r AS Ben Lake.
Mae Cyrtiau Tenis Llandre yn gyfleuster poblogaidd a ddefnyddir gan y pentrefwyr yn ogystal â'r cymunedau cyfagos o bob rhan o ogledd Ceredigion. Mae'r cyrtiau yn cael eu rheoli gan Gyngor Cymuned Geneu'r Glyn a byddant yn parhau i weithredu mynediad am ddim ac maent yn agored i bawb.
Ychwanegodd Peter James, Cadeirydd y Cyngor Cymuned; "Mae'r prosiect hwn wedi'i wneud yn bosibl trwy gefnogaeth ein partneriaid ariannu - Cynnal y Cardi (Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU)) a Gwobrau'r Loteri Genedlaethol i Bawb, felly diolch yn fawr iddynt am roi bywyd newydd i'r ased cymunedol pwysig hwn. Mae gwaith o adnewyddu wedi trawsnewid ein lleoliad yn llwyr ac ni allwn aros i ailagor – mae ein contractwyr, Hunts Contracting a Martin Chambers wedi gwneud gwaith arbennig, gyda lliwiau'r cyrtiau’n sefyll allan. Diolch i Tennis Cymru, byddwn nawr yn gweld y cyrtiau yn cael eu cofrestru fel safle LTA swyddogol a fydd yn dod â llawer o fanteision - bydd y cyrtiau yn parhau i fod yn rhad ac am ddim i'w defnyddio ond byddwn yn cyflwyno system archebu 'Clubspark' i wella hygyrchedd, rheoli mynediad a rheoli'r lleoliad yn effeithiol. Mae'r mesurau newydd yma yn hanfodol wrth ddiogelu'r buddsoddiad sylweddol o £80k a wnaed gan ein partneriaid cyllid a'r Cyngor Cymuned. Gennym gynlluniau ar y gweill i gyfuno ailagor y cyrtiau a’r Mai 18fed gyda Gwersyll Tenis Plant a fydd yn cael ei arwain gan ein partneriaid hyfforddi We Do Tennis - Llandre, ac rydym yn gobeithio cynnal sesiynau pellach yn y dyfodol. Dyma un o'r manteision o fod yn lleoliad cofrestredig LTA.
Roedd y prosiect buddsoddi cyfalaf hwn yn cynnwys gosod ffensys, gatiau mynediad, rhwydi a physt newydd yn ogystal â gosod arwynebau cwrt newydd gyda gorchudd lliw acrylig glas/gwyrdd a llinellau newydd. Cafodd y waliau allanol eu pwyntio a'u paentio hefyd i sicrhau bod pob elfen o'r cyrtiau yn cael eu hadnewyddu'n llwyr.
Dywedodd y Cynghorydd Catrin M S Davies, Aelod Cabinet Ceredigion sy’n gyfrifol am Ddiwylliant, Hamdden a Gwasanaethau Cwsmeriaid: “Cymunedau a thrigolion Llandre a’r ardal sy’n elwa mwyaf o’r adnewyddiad yma ond rydym wastad yn ceisio hyrwyddo iechyd a lles y gymuned gyfan yn ogystal ag ymwelwyr i’r ardal. Bydd y plwyf hefyd yn elwa o’r gwaith adfywio yma sy'n ategu cynlluniau ehangach ar gyfer y Parc Plant a'r Ardd Gymunedol fel asedau cymunedol Cyngor Cymunedol Genau’r Glyn. Edrychaf ymlaen at yr agoriad swyddogol mis nesaf.” Am fwy o wybodaeth ynglŷn a Chronfa Cynnal y Cardi ewch i : Cronfa Ffyniant Gyffredin y Deyrnas - Cyngor Sir Ceredigion neu e-bostiwch ce.cynnalycardi@ceredigion.gov.uk