Safeguarding / Diogelu

LLANFAIRFECHAN TOWN COUNCIL SAFEGUARDING POLICY STATEMENT

 Updated August 2024

PURPOSE AND SCOPE

Llanfairfechan Town Council recognises our moral and statutory responsibility to safeguard and promote the welfare of all children (anyone under 18) and adults at risk. We are committed to ensuring our safeguarding practice reflects statutory responsibilities, government guidance and with LTA standards.

We are committed to prioritising the well-being of children and adults at risk and providing a safe and welcoming environment where they are respected and valued. We are alert to the signs of abuse and neglect and follow our procedures to ensure that children and adults at risk receive effective support and protection.

A copy of the safeguarding policy is available on our website.

The purpose of this policy statement is to:

· Protect children and adults at risk (including children of adults who use our services) from harm

· Provide the necessary information to enable people to meet their safeguarding responsibilities

· Deliver good practice and high safeguarding standards

· Outline our commitment to safeguarding children and adults at risk

This policy applies to any person who anyone who might be at risk at community sessions, meetings activities and events that are underwritten by Llanfairfechan Town Council

RAISING A SAFEGUARDING CONCERN

Concerns should be raised to the Town Clerk on 01248681697 or jayne@llanfairfechan.net

If they are unavailable or a safeguarding concern relates to them, the concerns should be referred directly to the LTA via https://safeguardingconcern.lta.org.uk/.

WE RECOGNISE THAT

· the welfare of children and adults at risk is paramount

· working in partnership with children, their parents/carers and adults at risk is essential in promoting their welfare

· all children and adults at risk, regardless of age, disability, gender reassignment, race, religion or belief, sex, or sexual orientation have an equal right to protection from all types of harm or abuse

====

DATGANIAD POLISI DIOGELU CYNGOR TREF LLANFAIRFECHAN

 Diweddarwyd Awst 2024

DIBEN A CHWMPAS

Mae Cyngor Tref Llanfairfechan yn cydnabod ein cyfrifoldeb moesol a statudol i ddiogelu a hybu llesiant yr holl blant (unrhyw un o dan 18) ac oedolion sydd mewn perygl. Rydym yn ymroi i sicrhau bod ein harfer diogelu yn adlewyrchu cyfrifoldebau statudol, canllawiau’r llywodraeth ac yn cydymffurfio gyda safonau LTA.

Rydym yn ymroi i flaenoriaethu llesiant plant ac oedolion sydd mewn perygl a chynnig amgylchedd diogel a chroesawgar lle cân nhw eu parchu a’u gwerthfawrogi. Rydym yn ymwybodol o arwyddion cam-drin ac esgeulustod ac yn dilyn ein gweithdrefnau er mwyn sicrhau bod plant ac oedolion sydd mewn perygl yn derbyn cymorth ac yn cael eu hamddiffyn yn effeithiol.

Mae copi o’r polisi diogelu ar ein gwefan.

Diben y datganiad polisi hwn ydy:

· Amddiffyn plant ac oedolion sydd mewn perygl (gan gynnwys plant oedolion sy’n defnyddio ein gwasanaethau) rhag niwed

· Darparu’r wybodaeth angenrheidiol er mwyn i bobl allu bodloni eu cyfrifoldebau diogelu

· Cyflawni arfer da a safonau diogelu o ansawdd uchel

· Amlinellu ein hymrwymiad i ddiogelu plant ac oedolion sydd mewn perygl

Mae’r polisi hwn yn berthnasol i unrhyw un a all fod mewn perygl mewn sesiynau, cyfarfodydd, gweithgareddau a digwyddiadau cymunedol sydd o dan ofal Cyngor Tref Llanfairfechan.  

CODI PRYDER YNGHYLCH DIOGELU

Dylid hysbysu Clerc y Dref am unrhyw bryderon ar 01248681697 neu jayne@llanfairfechan.net

Os nad ydyn nhw ar gael neu os ydy pryder diogelu yn ymwneud â nhw, dylid cyfeirio’r pryderon yn uniongyrchol at yr LTA drwy https://safeguardingconcern.lta.org.uk/.

RYDYM YN CYDNABOD

· mae llesiant plant ac oedolion sydd mewn perygl o’r pwys mwyaf

· mae cydweithio gyda phlant, eu rhieni/gofalwyr ac oedolion sydd mewn perygl yn annatod er mwyn hybu eu llesiant.

· mae gan yr holl blant ac oedolion sydd mewn perygl, waeth beth ydy eu hoedran, anabledd, ailbeniad rhywedd, hil, crefydd neu gred, rhyw neu gyfeiriadedd rhywiol, hawl cyfartal i gael eu hamddiffyn rhag pob math o niwed neu gamdriniaeth.