Croeso

Wedi'i osod mewn lleoliad delfrydol yng nghanol Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, mae Clwb Tenis Crughywel yn cynnig cyfleusterau rhagorol mewn amgylchedd cyfeillgar a llawn hwyl.
 
Mae gan y Clwb ddau gwrt tarmacadam gyda llifoleuadau a chwrt bach a godwyd i'r pwrpas sy'n cynnig cyfle i aelodau i chwarae drwy gydol y flwyddyn. Mae'r rheiny sydd dim yn aelodau hefyd yn medru archebu cyrtiau trwy Ganolfan Adnoddau a Gwybodaeth Crughywel.
 
Mae rhaglen hyfforddi'r clwb yn cael ei harwain gan y chwaraewr rhyngwladol o Gymru, Carys Howard-Rees, o Academi Tenis y Bannau. Rydym yn cynnal 4 sesiwn tenis cymdeithasol bob wythnos ac mae gennym dîm o Ddyblau Cymysg ac o Ddyblau Dynion o'r To Hŷn yn y Cynghreiriau lleol.